Bydd yr Uned yn darparu canolfan arbenigedd amlddisgyblaeth, a fydd yn ceisio mynd i’r afael â phob math o drais a chamdriniaeth drwy fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o ymdrin ag atal trais. Mae’n ddyddiau cynnar o ran datblygiad yr uned; bydd tîm amlasiantaeth yn cael ei sefydlu a fydd yn cynnwys partneriaid o’r Heddlu, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Iechyd Cyhoeddus, y Sector Gwirfoddol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Mewnfudo, Cyfiawnder Ieuenctid, ac Awdurdodau Lleol.

Bydd yr Uned Atal Trais i Gymru Gyfan yn canolbwyntio i ddechrau ar fynd i’r afael â thrais difrifol sy’n gysylltiedig â throseddau lle y defnyddir cyllyll a gynnau, yn enwedig ymysg pobl ifanc yn Ne Cymru. Yn dilyn hyn, bydd yr Uned yn uwchraddio’r dull i ganolbwyntio ar bob math o drais ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r uned i uwchraddio rhaglenni, systemau a phrosesau sy’n dangos canlyniadau addawol, megis gwyliadwriaeth o drais, ledled y wlad gyfan. 

Bydd yr Uned yn ceisio ymgysylltu â rhanddeiliaid – gan gynnwys cynhyrchu ar y cyd â chymunedau y mae trais yn effeithio arnynt – dros y misoedd i ddod drwy gyfres o weithdai, digwyddiadau a gweithgareddau rhwydweithio i ddatblygu strategaeth a rhaglen waith. Dilynir hyn gan lansiad ffurfiol a digwyddiad ymgynghori yn ystod Gwanwyn 2020.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at [email protected] ar gyfer ymholiadau am iechyd cyhoeddus, a Dan Jones [email protected] ar gyfer ymholiadau am Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.