Dechreuodd cwrs pwrpasol pedwar-diwrnod wedi’i anelu at feithrin gwytnwch yn ein gweithlu ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys ym mis Medi. Mae’r cynllun peilot Gwella Gwytnwch a Sgiliau Hunan-ofal yn ffordd newydd o gynorthwyo i baratoi pobl i allu ymdopi â’r pwysau emosiynol y maent yn ei wynebu, nid yn unig fel rhan o blismona, ond yn eu bywydau personol hefyd.

Un o bedwar conglfaen meithrin gwytnwch yw bod â’r sgiliau i reoli eich ymddygiad a’ch emosiynau. Dyluniwyd a darparwyd y cwrs gan ddau Seicotherapydd Ymddygiad Gwybyddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Amy Bassett-Van Doorn, a Margaret Meleady. “Lluniwyd y cwrs hwn yn benodol i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar y bobl sy’n plismona ar hyn o bryd, ac mae’r cynnwys yn seiliedig ar fodelau therapi ymddygiad gwybyddol, y profwyd eu bod yn effeithiol. Mae gennym obeithion mawr.”

Mae cymysgedd o 20 o staff a swyddogion yr heddlu, o amrywiaeth o gefndiroedd a rhengoedd, wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o’r cynllun peilot. Gwyddom y gall trawma emosiynol neu gorfforol arwain at gyflyrau emosiynol dwys. Bydd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sy’n rheoli bergusrwydd emosiynol ac yn cynyddu gwytnwch emosiynol drwy ddull seicoaddysgol; sy’n cynnwys rheoli emosiynau, ymdopi â gofid ac effeithiolrwydd rhyngbersonol.

Comisiynwyd y gwaith gan Arweinydd Heddlu Rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd Dyfed-Powys a’r Prif Arolygydd Dyfed Bolton, a welodd gyfle i roi gwell sgiliau i swyddogion a staff i allu ymdopi â heriau plismona modern. 

Bydd canfyddiadau’r cynllun peilot hwn nid yn unig yn bwydo i mewn i Grŵp Arweinyddiaeth a Llesiant Calon i sicrhau newid yn fewnol, ond byddant hefyd o ddiddordeb ledled Cymru a thu hwnt.