Ym mis Hydref 2018, dechreuodd HMPPS yn cynnwys HMP/YOI Parc ar brosiect carchardai sy’n wybodus am drawma (TIPP) gyda’r weledigaeth o ddatblygu ymagwedd gynaliadwy sy’n wybodus am drawma ar draws carchardai yng Nghymru ac i fynd i’r afael â bregusrwydd sydd yn gysylltiedig ag ACE ym mhoblogaeth carchardai.

Mae’r TIPP yn cynnwys dau faes allweddol;

  • ymwybyddiaeth ACE ar gyfer yr holl staff, a 
  • Datblygu, sefydlu a phrofi ymagwedd sy’n wybodus am drawma tuag at waith achos mewn carchardai

Cefnogir y prosiect gan dîm Cydlynu ACE, sydd yn cefnogi trwy ddatblygu a chyflenwi hyfforddiant ACE TIME ar gyfer staff carchardai a phrawf ar draws Cymru.  Er mwyn sicrhau parhad yr hyfforddiant a gwybodaeth gynyddol staff am drawma ac ACE ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect, sef Mawrth 2020, mae model newydd “hyfforddi’r hyfforddwr” wedi cael ei lansio.

Cafwyd diddordeb mawr gan staff  HMPPS a HMP/YOI Parc yn cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno’r prosiect hwn yn y dyfodol, sydd yn dangos y croeso cynnes y mae’r prosiect hwn wedi ei gael. Nod ail faes allweddol y TIPP yw llywio a gwella prosesau gwneud penderfyniadau proffesiynol mewn ymagwedd sy’n wybodus am drawma tuag at waith achos.

Mae hyn yn cynnwys deall effaith profiadau bywyd cynnar unigolyn, bregusrwydd posibl, cerrig milltir datblygiadol, yn ogystal â datblygu strategaethau ymgysylltu effeithiol, datblygu cadernid a chyfleoedd i hybu ffactorau amddiffynnol. Bydd yr ymagwedd hon yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd a llwyddiant mannau eraill, fel y treial Rheoli Achosion Uwch mewn Cyfiawnder Ieuenctid.

Dylai sefydlu ymagwedd sy’n wybodus am drawma mewn carchardai yng Nghymru alluogi sefydlogrwydd gwell ymysg dynion tra’u bod yn y carchar a thu hwnt i glwydi’r carchar, gyda’r potensial ar gyfer effeithiau cadarnhaol yn ymestyn i’w teuluoedd, y gymuned leol a phartneriaid fel yr Heddlu.

Bydd y prosiect yn cael ei werthuso’n annibynnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi meysydd llwyddiant allweddol a meysydd ar gyfer gwella.