Mae cydlynwyr ACE ar flaen y gad o ran llunio gweithlu wedi’i hysbysu gan drawma gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol. Mae'r cydlynwyr yn cyflwyno hyfforddiant, yn ymgorffori dysgu ac yn hwyluso newid. Maent yn cynnig ymgynghoriaeth a chyngor parhaus i swyddogion yr heddlu a phartneriaid allweddol.

Mae cydlynwyr ACE yn adeiladu perthynasau cryf gweithredol ar draws rhengoedd a chyda phartneriaid allweddol yn lleol ac yn genedlaethol, i ddylanwadu ar newid a chefnogi gwaith strategol. Nid ydynt yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd, fodd bynnag bydd y gwaith y maent yn ei gyflawni yn cael effaith uniongyrchol ar unigolion sydd mewn perygl o brofi ACE.

Mae rhaglen hyfforddiant ACE TIME yn darparu gwybodaeth am ACE i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth i hysbysu ymarfer. Bydd cyfranogwyr hyfforddiant yn ennill dealltwriaeth o:

  • Beth yw ACE a nifer yr achosion o ACE o fewn poblogaeth Cymru
  • Sut mae ACE yn effeithio ar ganlyniadau bywyd a sut mae'r risg o ganlyniadau gwael yn ddiweddarach mewn bywyd yn cynyddu gyda nifer yr ACE
  • Effaith ehangach ACE ar gymdeithas (e.e. defnydd o’r gwasanaeth iechyd, trosedd), gan werthfawrogi mai swydd pawb yw mynd i'r afael ag ACE, nid cyfrifoldeb sefydliadau penodol
  • Dealltwriaeth o'u hymatebion seicolegol a ffisiolegol eu hunain a phobl eraill i fygythiadau, gan gydnabod bod llawer ohonynt yn anfwriadol
  • Gwybodaeth ar sut i gymhwyso gwybodaeth am drawma i'w rôl ac adnabod trawma mewn pobl fregus y maent yn gweithio â nhw
  • Dealltwriaeth y gall fod achos sylfaenol i ymddygiad unigolyn a gall fod yn symptom o drawma. Trwy well dealltwriaeth, bydd dysgwyr yn gallu adnabod achos sylfaenol ymddygiad yn well yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ymddygiad yn unig. Bydd hyn yn cyfrannu at greu dull datrys problemau cyfannol cynaliadwy gyda theuluoedd, yn hytrach nag ymateb dros dro, ac sy’n seiliedig ar symptomau ymddygiad
  • Galluogi dysgwyr i adnabod manteision ymyrraeth gynnar ac felly gofyn am gymorth a chyngor cyn i unigolion gyrraedd gofynion diogelu. Mae ymyrryd ar y cyfle cyntaf yn creu canlyniadau cadarnhaol i'r unigolyn yn ogystal â gostyngiad mewn costau adnoddau a chostau cysylltiedig i'r gweithlu, fel budd i’r system gyfan

 

I gysylltu â Camau Cynnar gyda’n Gilydd, ffoniwch 02920 577074 neu e-bostiwch.