Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Hyb Cymorth ACE Cymru wedi datblygu ymgyrch o’r enw #Amserbodynbaredig, ymgyrch pwerus dros bedair wythnos gyda hysbyseb teledu trawiadol yn mynd yn fyw yn genedlaethol ac yn ddigidol am bythefnos. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys gweithgaredd y cyfryngau cymdeithasol a digidol am bedair wythnos, CC a’r cyfryngau i annog pawb i fod yn garedig a helpu i ddatblygu Cymru sy’n fwy ymwybodol o ACE. Cafodd ei lansio ar Ddydd Llun 10 Mehefin ac mae’n rhedeg hyd at 8 Gorffennaf.

Mae’n ymgyrch cadarnhaol, sydd yn canolbwyntio ar gadernid, gyda’r nod o herio agweddau a dechrau creu ymwybyddiaeth o Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ymysg y cyhoedd, a chreu cymdeithas sydd yn dosturiol a lle mae pobl yn deall bod gan bawb rôl bwysig yn datblygu cadernid mewn plant.

Mae’n seiliedig ar ymchwil ACE Cymru y gall cael perthynas ddibynadwy a chysylltiadau (ymyriadau bach a mawr) gydag oedolion, wneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn/person.  Mae’n targedu oedolion yng Nghymru i ddeall bod llawer o bethau y gallant ei wneud i helpu plentyn a allai fod yn cael anhawster, trwy gymryd amser i fod yn garedig. Ymunwch â'r sgwrs ar-lein drwy chwilio #Amserbodynbaredig neu ACEHubWales.