Darparodd digwyddiad Camau Cynnar gyda’n Gilydd Ynys Môn ddealltwriaeth werthfawr o sut mae Cymru’n arwain y ffordd mewn perthynas â thrawsnewid plismona a sut maent yn gweithio gydag asiantaethau partner i gefnogi pobl sy’n agored i newid ac mewn perygl. 

Dywedodd Vicky Jones o’r rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd: “Mae’n amser am newid – er mwyn gwneud yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a chydweithio’n fwy effeithiol.”  
“Rydym yn gwybod bod gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gylchoedd sy’n pontio’r cenedlaethau a allai arwain at ymddygiad sy’n niweidio iechyd. Gall ymyrraeth gynnar i atal yr ymddygiad hwn ddod â budd sylweddol i wasanaethau cyhoeddus a gall arwain at ganlyniadau gwell i unigolion.”

“Yng Ngogledd Cymru, rydym yn ymchwilio i sut y gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol gefnogi’r rhaglen Camau Cynnar gyda’n Gilydd yn fwy eang, a sut y gall y rhaglen gynorthwyo i sicrhau bod pobl broffesiynol a’r cyhoedd yn ymwybodol o brofiadau niweidiol o’r fath ac yn gwybod am drawma.”

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Helen Douglas: “Bu’n her i swyddogion yr heddlu oherwydd mae wedi golygu gweithio mewn ffordd wahanol. Ond mae’n ymwneud â’u helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth gywir, a’u grymuso i ymdrin â phroblemau a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

“Mae’r Comisiynydd a’i dîm yn falch iawn o’r gwaith arloesol sydd wedi’i wneud yn Ynys Môn i sicrhau ein bod yn gallu darparu ymateb system gyfan i bobl sy’n agored i niwed drwy weithredu dull ar y cyd lle mae gwybodaeth ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar gyfer plismona gweithredol a phartneriaid allweddol.

“Rydym wedi gwneud camau breision tuag at sicrhau bod gennym weithlu sy’n ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac sydd â gwybodaeth ynghylch trawma ar draws y maes plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru.”

Dywedodd Andrew Bennett, Ymgynghorydd y Rhaglen: “Mae’n ymwneud â rhoi dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, trawma a gwytnwch yn nwylo’r cyhoedd, gan greu effaith a fydd yn gwella’r gymuned.”