24 Mai 2019 yw diwrnod lansio rhwydwaith dysgu Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod (ACE) rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd Heddluoedd Cymru a’u Partneriaid, sydd wedi cael ei gynhyrchu mewn partneriaeth rhwng Camau Cynnar Gyda’n Gilydd a’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus (RSPH). Nod rhwydwaith dysgu ACE yw darparu i’r heddlu a phartneriaid ehangach wybodaeth ac adnoddau perthnasol i ACE a thrawma yng nghyd-destun plismona a chyfiawnder troseddol. 

Mae Camau Cynnar Gyda’n Gilydd yn sbarduno’r ymrwymiad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phlismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru i gydweithredu o dan ddull iechyd cyhoeddus o weithio. Mae’r rhaglen yn trawsnewid plismona drwy alluogi ymyrraeth gynnar ac atal, cadw pobl fregus allan o'r system cyfiawnder troseddol, torri cylch cenedliadol troseddu a gwella bywydau.

Bydd rhwydwaith dysgu ACE, a ddatblygwyd gan ymgynghori â grŵp cynghori ledled y DU, yn rhannu canfyddiadau seiliedig ar dystiolaeth ac arferion gorau o’r rhaglen mewn ffordd ddeinamig, gan ddangos effaith y newidiadau mae heddluoedd Cymru’n eu gwneud. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys gweithredu systemau help cynnar newydd, gweithio’n wahanol gyda phartneriaid amlasiantaeth, sut maent yn casglu gwybodaeth, a sut maent yn strwythuro eu sefydliadau ac yn datblygu eu pobl i ddiwallu anghenion eu cymunedau’n well. Bydd hefyd yn cynnwys blogiau, newyddion a chyhoeddiadau ymchwil gan iechyd cyhoeddus, yr heddlu a phartneriaid eraill o bob cwr o’r DU a thu hwnt.                  

Mae Cymru’n pennu’r amserlen ar gyfer y gwaith hwn fel bod modd ei ehangu ar draws y sector heddlu a chyfiawnder troseddol yn Lloegr. Mae’r rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd wedi gwneud ymrwymiad i rannu’r hyn mae’n ei ddysgu wrth i’r rhaglen barhau, a bydd rhwydwaith dysgu ACE yn darparu’r cyfle hwn.                           

Dywedodd Janine Roderick, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Iechyd Cyhoeddus a Phlismona yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gweithredu ar sail iechyd cyhoeddus wrth galon y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae deall ACE a gwytnwch fel y ffactorau risg a gwarchodol ar gyfer llawer o’r hyn mae’r heddlu’n delio ag ef yn gam pwysig er mwyn torri’r cylch o droseddu a helbul. Mae ymateb llawer o sefydliadau wedi bod yn wych o ran cymryd rhan yn y gwaith yma, felly rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag RSPH i sicrhau bod y dysgu’n cael ei rannu. Bydd rhwydwaith dysgu ACE y rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd yn darparu adnoddau diweddar a gwasanaethau cydweithredol ar-lein ar gyfer yr heddlu, cyfiawnder troseddol a phartneriaid, i ddatblygu eu gwybodaeth ac i fod yn sail i weithredu ar sail iechyd cyhoeddus drwy lens ACE.”  

Dywedodd Shirley Cramer, CBE, Prif Weithredwr y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus: “Mae ymchwil yn awgrymu bod tua hanner y boblogaeth o oedolion wedi profi o leiaf un Profiad Niweidiol Mewn Plentyndod (ACE) ac mae perthynas gref rhwng dod i gysylltiad ag ACE a chanlyniadau iechyd gwaelach. Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n darparu cefnogaeth i weithwyr proffesiynol er mwyn iddyn nhw ddeall effaith ACE yn well.

Rydyn ni’n hynod falch, drwy ein partneriaeth gyda’r rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd, o lansio adnodd ar-lein a Rhwydwaith Dysgu ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y gweithlu iechyd cyhoeddus ehangach. Bydd rhwydwaith dysgu ACE y rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd yn chwarae rhan bwysig a dylanwadol mewn cefnogi gweithwyr proffesiynol yn gyffredinol i gydweithredu fel sydd angen er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth o brofiadau niweidiol, trawmatig ac ataliadwy, a’u lliniaru, oherwydd mae’r profiadau hyn yn gallu effeithio ar ormod o’n plant a’n pobl ifanc ni.”  

Profiadau trawmatig yw ACE (Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod) sy’n digwydd cyn bod yn 18 oed. Maent yn amrywio o gam-drin plant ar lafar, yn feddyliol, yn gorfforol ac yn rhywiol a dod i gysylltiad ag alcoholiaeth, defnydd o gyffuriau a thrais domestig yn y cartref. 

Mae plant sy’n cael ACE yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad niweidiol i’w hiechyd a gwrthgymdeithasol fel oedolion ac maent mewn mwy o berygl o iechyd gwael drwy gydol eu bywyd. Hefyd, efallai y bydd ganddynt fwy o anghenion am gefnogaeth gan wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill fel plismona a chyfiawnder troseddol.      

Mae'r rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, pedwar Heddlu Cymru a'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Barnardo’s a sefydliadau cyfiawnder troseddol allweddol. 

Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.aces.me.uk/ dilynwch ni ar Twitter @ACEsHeddluCymru / @ACEsPoliceWales neu cysylltwch â thîm cyfathrebu Camau Cynnar Gyda’n Gilydd: [email protected] / 07899 060432 / 07899 060072.