Bydd y rhaglen hon yn gweld heddluoedd yng Nghymru yn cymryd cam sylweddol tuag at wireddu'r weledigaeth honno trwy weithio'n agos gyda phartneriaid a chynnwys nifer o randdeiliaid – gyda hwy oll yn anelu at amddiffyn pobl fregus yn well a sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth angenrheidiol i dorri'r cylch cenedliadol o ofid a datblygu’r gwydnwch sydd ei angen i alluogi eu plant eu hunain i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy diogel.

Mae cydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus a Phlismona wedi datblygu yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabl De Cymru gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Memorandwm gwreiddiol yn nodi manteision cydweithio er mwyn mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n wynebu plismona, cyfiawnder troseddol a iechyd cyhoeddus ac mae wedi arwain at waith sylweddol ar y cyd.

Mae'r Cytundeb Partneriaeth hwn yn disodli'r Cytundeb a gaed rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru. Mae'n ceisio sicrhau newid ar draws y systemau a darparu gwasanaethau integredig ledled Cymru, drwy ysgogi gweithredu ac ymateb ar y cyd i faterion sy’n flaenoriaeth ar draws plismona, cyfiawnder troseddol a phartneriaid.

I drawsnewid plismona bregusrwydd i ddull gweithredu aml-asiantaeth wedi'i lywio gan ACE ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal achosion gwreiddiol.

Mae'r Cytundeb Partneriaeth hwn yn nodi ymrwymiad partneriaid Iechyd Cyhoeddus Cymru, Plismona a Chyfiawnder Troseddol i ddatblygu rhaglen waith ar y cyd gyda'r nod o adeiladu gwydnwch sefydliadol a chymunedol trwy ddull iechyd cyhoeddus; deall a nodi achosion gwreiddiol materion cyffredin sy'n cyffwrdd â phlismona, iechyd a chyfiawnder troseddol a dylunio, profi a gweithredu atebion hirdymor cynaliadwy.

Mae'r Cytundeb Partneriaeth yn cydnabod bod perthynas agos rhwng Plismona a Iechyd Cyhoeddus. Yr Heddlu yw'r ymatebwyr cyntaf i amryw o sefyllfaoedd cymhleth sy'n cynnwys materion iechyd cyhoeddus, troseddol neu sifil.

Rydym yn gwybod bod llawer o'r hyn y mae'r heddlu'n ymateb iddo yn cael ei gyfeirio at gynnal iechyd a lles, felly mae cymryd ymagwedd iechyd cyhoeddus yn darparu fframwaith ddefnyddiol i ddeall y ffactorau risg a'r blociau adeiladu i fynd i'r afael â bregusrwydd a chynyddu gwytnwch ar draws cwrs bywyd.

Mae'r partneriaid yn cynnwys:

  • Y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddau a'r pedwar Prif Gwnstabl ar gyfer De Cymru, Gogledd Cymru, Dyfed-Powys a Gwent
  • Cyfarwyddwr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru
  • Prif Weithredwr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
  • Cyfarwyddwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Cymru
  • Cyfarwyddwr Cymru y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
  • Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru