Rhaglen ACE yr Heddlu a Phartneriaid – Camau Cynnar gyda’n Gilydd

Mae Camau Cynnar gyda’n Gilydd yn fenter newydd sy'n cynnwys sefydliadau iechyd cyhoeddus, plismona a chyfiawnder troseddol ledled Cymru, sy’n cymryd ymagwedd iechyd cyhoeddus tuag at blismona a chyfiawnder troseddol trwy ymyrryd yn gynnar a chymryd camau ataliol wrth ddelio â phobl fregus er mwyn mynd i'r afael ag achosion gwreiddiol ymddygiad troseddol.

 

 

Y tirwedd deddfwriaethol yng Nghymru 

Mae deddfwriaeth yng Nghymru, ynghyd â hinsawdd o doriadau i gyllid yn y sector cyhoeddus yn golygu bod sefydliadau'n gorfod archwilio ffyrdd gwahanol o weithio. Mae hyn yn cynnig y cyfle gorau ers amser hir i sicrhau ymagwedd wirioneddol gydweithredol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ond yn ddau ddarn o ddeddfwriaeth sy'n pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cydweithio, integreiddio, cynllunio tymor hir ac atal i wella lles pawb yng Nghymru, yn enwedig y rhai hynny sydd angen gofal a chymorth.

 

Gweledigaeth yr heddlu ar gyfer 2025 a rôl newidiol plismona

Mae ymchwil yng Nghymru wedi dangos bod y galw ar yr heddlu yn newid. Nid yw tua 90% o'r galw ar yr heddlu yn ymwneud â throseddau ond yn hytrach, yn ymwneud â materion lles, diogelwch y cyhoedd a bregusrwydd cymhleth; sy’n golygu bod yr heddlu mewn sefyllfa dda i ymyrryd yn fwy effeithiol a lleihau effaith ACE.

Mae heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn gweithio tuag at weledigaeth ar gyfer plismona lleol sy'n nodi ‘Erbyn 2025, bydd plismona lleol yn cael ei unioni a, lle bo'n briodol, yn cael ei integreiddio â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill i wella canlyniadau ar gyfer dinasyddion ac i ddiogelu rhai bregus’.

 

Cytundeb Partneriaeth

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid Plismona a Chyfiawnder Troseddol ledled Cymru wedi llofnodi cytundeb i gydweithio i wella ansawdd bywyd, lles a diogelwch pobl Cymru.