Hyb Cefnogi ACE

Sefydlwyd Canolfan Gymorth ACE gan gydweithrediad gwirfoddol o sefydliadau o'r enw Cymru Well Wales, i'ch cefnogi i wneud newidiadau sy'n golygu bod Cymru’n arwain wrth fynd i'r afael ag ACE, a’u hatal.

Gan weithio gyda chi, ein cenhadaeth yw rhannu syniadau a dysgu, ac i herio a newid ffyrdd o weithio felly, gyda'n gilydd, gallwn dorri’r cylch ACE.

 

Hyb Gwasanaethau Brys

Datblygwyd yr Hyb Gwasanaethau Brys gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus, Public Health England a sefydliadau partner allweddol ar draws y sector gwasanaethau brys.

Pwrpas yr Hyb Gwasanaethau Brys yw i ddarparu adnoddau ar gyfer y tri gwasanaeth brys gyda'r nod o rannu gwybodaeth, arfer gorau a chydweithrediad yng nghyswllt iechyd cyhoeddus.

 
Public Health England

Cadwch eich llygaid yn agored...mae tudalen newydd gyffrous yn dod yn fuan iawn a fydd yn dweud mwy wrthym am yr hyn y mae Public Health England yn ei wneud yn y maes ACE…

Mae Public Health England yn asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a lles y genedl, a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

 

Ymchwiliad Arferol ynghylch Adfyd Plentyndod (REACh)

Cafodd REACh ei weithredu ar draws practis cyffredinol aml-safle mawr yng Ngogledd Orllewin Lloegr rhwng Ebrill a Hydref 2017. Gan ddefnyddio data ansoddol a meintiol, mae'r adroddiad hwn yn ystyried ymarferoldeb a derbynioldeb ymchwiliad ACE mewn practis cyffredinol o safbwynt y claf a'r ymarferydd, ac mae'n rhoi rhywfaint o fewnwelediad cychwynnol i effaith bosibl ymchwiliad ACE ar ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau iechyd cleifion.

Bwriad yr adroddiad hwn yw i fod yn astudiaeth prawf o gysyniad ar gyfer ymchwiliad ACE mewn practis cyffredinol ac mae’n archwilio canfyddiadau allweddol o'r gwerthusiad o astudiaeth arloesi ar gyfer un dull o'r fath - Ymchwiliad Arferol ynghylch Adfyd Plentyndod (REACh). Edrychwch ar y ffeithlun.

 
Gwefannau eraill: