Trwy ddefnyddio gwyddoniaeth, gwybodaeth a chudd-wybodaeth, eiriolaeth, partneriaethau a darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol, mae Public Health England yn gyfrifol am:

  • Wneud y cyhoedd yn iachach a lleihau'r gwahaniaethau rhwng iechyd gwahanol grwpiau drwy hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, cynghori’r llywodraeth a chefnogi gweithredu gan lywodraeth leol, y GIG a'r cyhoedd
  • Amddiffyn y genedl rhag peryglon iechyd cyhoeddus
  • Paratoi ar gyfer ac ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus
  • Gwella iechyd y boblogaeth gyfan drwy rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd, ac adnabod a pharatoi ar gyfer heriau iechyd cyhoeddus y dyfodol
  • Cefnogi awdurdodau lleol a'r GIG i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel rhaglenni imiwneiddio a sgrinio, ac i ddatblygu’r system iechyd cyhoeddus a'i weithlu arbenigol
  • Ymchwilio, casglu a dadansoddi data i wella ein dealltwriaeth o heriau iechyd cyhoeddus, a llunio atebion i broblemau iechyd cyhoeddus