Mae yna dystiolaeth gynyddol sy'n dangos y gall profi ACE gael effaith sylweddol ar les meddyliol (a chorfforol) trwy gydol oes a gall gynyddu'r risg o ganlyniadau negyddol fel ymwneud â throseddu.

Nododd ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y rheini â phedwar ACE neu fwy 15 gwaith yn fwy tebygol o gyflawni trais yn erbyn person arall, ac 20 gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu.

Mae unigolion yn y carchar a'r system brawf fel arfer yn arddangos amrywiaeth o anghenion cymhleth sy'n aml yn cael eu hategu gan ACE a thrawma emosiynol arall, yn ogystal â chyflyrau iechyd meddwl, defnydd problemus o gyffuriau neu alcohol ac anawsterau gwybyddol; pob un yn cyfrannu tuag at fregusrwydd.

Mae'r Fframwaith i Gefnogi Newid Cadarnhaol ar gyfer y rhai sydd mewn Perygl o Droseddu yng Nghymru (2018-2023) a ddatblygwyd ar ran Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, yn cydnabod yr angen i gymryd ymagwedd gyd-gysylltiedig tuag at mynd i'r afael ag effaith ACE a thrawma i helpu i rymuso pobl i fyw bywydau cadarnhaol ac iach i ffwrdd o’r system cyfiawnder troseddol.

Eleanor Worthington - Cydlynydd Trosedd a Chyfiawnder ACE Cenedlaethol

Mae Eleanor ar secondiad i'r Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd fel Cydlynydd Trosedd a Chyfiawnder ACE Cenedlaethol, o'i swydd barhaol fel Rheolwr Datblygu Polisi ac Ymarfer Integredig Troseddwyr ar gyfer y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Eleanor wedi cwblhau MSc mewn Seicoleg Fforensig ac mae wedi gweithio mewn rolau datblygu ymchwil, polisi ac ymarfer amrywiol yn ystod y cyfnod hwn.

Ffocws allweddol rôl Eleanor dros y 5 mlynedd diwethaf fu datblygu trefniadau rheoli troseddwyr integredig ledled Cymru a'r DU.

Mae hyn wedi cynnwys arwain ar ddatblygu dogfennau polisi allweddol, canllawiau ymarfer a deunyddiau hyfforddi sydd wedi'u hanelu at ddatblygu dull cyd-gysylltiedig ar y cyd ar lefel leol a chenedlaethol, i weithio gydag unigolion sy'n arddangos anghenion, bregusrwydd a risg cymhleth.

Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd Eleanor rwydwaith Ymchwil Dadansoddedig a Pherfformiad Integredig Cymru, gan ddod â chynrychiolwyr ynghyd o gyfiawnder troseddol, academia, a phartneriaid ehangach i hwyluso rhannu gwybodaeth, adnoddau a thystiolaeth ymchwil i ddylanwadu'n gadarnhaol ar ymarfer a chyfeiriad polisi.

Mae Eleanor hefyd wedi cael cyfle unigryw yn ddiweddar i gael ei secondio i Swyddfa Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), fel cynrychiolydd cyfiawnder troseddol i gefnogi darpariaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) arloesol o fewn y cyd-destun cyfiawnder troseddol.

Mae rôl bresennol Eleanor yn canolbwyntio ar gydlynu a chefnogi gweithrediad strategaeth ACE o fewn y cyd-destun cyfiawnder troseddol, gan weithio gyda phartneriaid i gymhwyso lens ACE i systemau, prosesau ac ymarfer; helpu i greu gweithlu CJ sy'n ymwybodol o ACE, a sefydlu ymyriadau a dulliau sydd wedi'u hanelu at gefnogi unigolion i feithrin gwytnwch.

 

 


Y Timau Cyflenwi

Tîm Cydlynu ACE

Mae cydlynwyr ACE ar flaen y gad o ran llunio gweithlu wedi’i hysbysu gan drawma gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol

Y Tîm Cenedlaethol

Nod y tîm cenedlaethol yw i arwain elfen genedlaethol y rhaglen a darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i'r timau cyflenwi lleol