Mae gan y tîm gyfoeth o brofiad mewn gwerthuso a chynllunio gwerthuso, gyda phrofiadau amrywiol â’r heddlu, gwasanaethau ieuenctid a galw penodol bregusrwydd, fel cam-drin domestig.

Maent yn cydweithio'n agos fel tîm gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol i droi canlyniadau data allweddol mewn i argymhellion ymarferol, cymwys.
 

Emma Barton, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus ac Ymarferydd Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymunodd Emma Barton â Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 fel Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol.

Mae gan Emma dros bymtheg mlynedd o brofiad yn gweithio mewn ymchwil ym maes addysg, troseddeg a iechyd cyhoeddus ar ôl gweithio fel Uwch Ymgynghorydd Ymchwil yn y gorffennol gyda throseddwyr ifanc.

Mae gan Emma MSc mewn Seicoleg Fforensig a BA (Anrh) mewn Seicoleg a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol.

Yn ddiweddar mae Emma wedi arwain tîm ymchwil i gyflwyno elfennau gwerthuso'r Prosiect Ymyrraeth Gynnar ac Atal (EIPP): Torri Cylch Trosedd Cenedliadol fel rhan o brosiect Cronfa Arloesi'r Heddlu; gan gynnwys (1) Gwerthusiad o ymagwedd strwythuredig aml-asiantaeth ymyrraeth gynnar tuag at fregusrwydd gyda thimau plismona bro; a (2) Gwerthusiad o'r Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) - Dull Ysgol Gyfan.

Ar hyn o bryd mae hi'n cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil sy'n edrych ar ddeall ACE yn y boblogaeth o droseddwyr ac mae'n gweithio fel un o'r ymchwilwyr arweiniol ar Raglen Genedlaethol Ymagwedd ACE tuag at Blismona Bregusrwydd.

Fel yr Arweinydd Ymchwil cyfredol ar ddatblygu prosiect goruchwylio trais Cymru mae gan Emma lawer o brofiad a mewnwelediad i'r prosesau sy'n gysylltiedig â sefydlu mentrau newydd o fewn amgylchedd ymchwil aml-ddisgyblaeth, aml-asiantaeth ochr yn ochr â gwybodaeth am ddata cysylltiedig yn ymwneud â thrais ac ymosodiad ar iechyd.

Mae Emma wedi annerch nifer o gynadleddau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y 4edd gynhadledd ar Orfodi Cyfraith Ryngwladol a Iechyd Cyhoeddus; yr Ymyriadau Trais Rhyngbersonol - Cynhadledd Ryngwladol o Safbwyntiau Cymdeithasol a Diwylliannol a Chynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Freya Glendinning, Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

Mae Freya yn swyddog ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, gan weithio ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn 2018, cwblhaodd Freya ei PhD gyda'r Athrofa Seicoleg Perfformiad Elitaidd (IPEP), Prifysgol Bangor.

Canolbwyntiodd ei hymchwil doethuriaeth ar hunan-hunaniaeth, anghenion seicolegol, cymhelliant, lles a seicopatholeg.

Yn ystod ei hastudiaethau doethuriaeth, daeth Freya yn ymwybodol o effaith Profiadau Niweidiol mewn plentyndod (ACE) ar ganlyniadau iechyd ac ymddygiad, ac mae bellach wrth ei bodd i fod yn ymchwilio ymhellach i'r mater hwn yn ei gwaith cyfredol.

Annemarie Newbury, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Annemarie yn Uwch Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda BSc (Anrh) mewn Seicoleg a MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Anarferol.

Cyn hynny, gweithiodd Annemarie ar y Prosiect Ymyrraeth Gynnar ac Atal (EIPP): Torri Cylch Cenedliadol Trosedd, gan gynnal ymchwil ar ymateb yr heddlu i fregusrwydd a nifer yr achosion o ACE mewn poblogaeth carchar.

Mae Annemarie hefyd wedi gweithio ar brosiect Esgeulustod Cymru ar gyfer tîm Polisi a Materion Cyhoeddus yr NSPCC, gan archwilio rôl ysgolion wrth weithredu ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer esgeuluso plant.

Georgia Johnson, Cynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Georgia yn Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda chydweithwyr ar ymyrraeth gynnar ac atal achosion sylfaenol trosedd.

Fel rhan o'i thraethawd hir MSc, gweithiodd Georgia ar y cyd â Heddlu Swydd Gaerhirfryn i archwilio effaith strwythur, bwriad, gallu a throseddoldeb y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol ar dactegau tarfu yr heddlu.

Yn flaenorol bu Georgia wedi gweithio fel ymgynghorydd ymchwil i werthuso defnyddwyr gwasanaeth Canolfan Merched Swydd Gaerhirfryn (LWC). Ar hyn o bryd mae gan Georgia ddiddordeb mewn ehangu ar ei gwaith blaenorol yn archwilio bregusrwydd a sut mae hyn yn berthnasol i brofiad adfyd yn ystod plentyndod a throseddoldeb yn y dyfodol.

Hayley Janssen, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Hayley yn Uwch Gynorthwyydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar y prosiect ymyrraeth gynnar a'r prosiect atal.

Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar nodi a mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod (ACE) a'u heffaith ar genedlaethau'r dyfodol.

Mae Hayley hefyd yn raddedig PhD Maeth Iechyd Cyhoeddus sydd wedi bod yn ymchwilio i'r amgylchedd iechyd ac yn casglu tystiolaeth ragarweiniol i gefnogi polisïau i leihau effeithiau negyddol bwydydd parod ar iechyd cyhoeddus.

Cyn hyn, cwblhaodd BSc Dosbarth 1af mewn Maeth Cymunedol yn 2015 yn LJMU ac ymchwil yn ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Brenhinol Lerpwl yn gweithio ar astudiaeth ymyrraeth ddieteg. Mae'n parhau i fod yn Faethegydd Cyswllt Cofrestredig.

Felicity Morris, Cynorthwyydd Ymchwil gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Felicity yn Gynorthwyydd Ymchwil gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn gweithio o fewn y Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd. Mae hi hefyd yn cynorthwyo gyda gwerthuso'r Rhaglen Annog Teuluoedd; asesiad teulu cyfan i deuluoedd lle yr adnabuwyd cam-drin domestig.

Graddiodd Felicity â gradd mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Caerdydd yn 2014 ac ers hynny mae wedi gweithio mewn gwahanol rolau.

Cyn hynny roedd Felicity yn Gynorthwyydd Ymchwil i Llamau, elusen sy'n gweithio gyda phobl ifanc a menywod bregus, gan werthuso'r Prosiect Symud Ymlaen / Moving Forward.

Cyn ymuno â Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithiodd Felicity yn adran pediatreg gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r ddwy rôl wedi cynnwys cyswllt â phobl ifanc bregus a'u teuluoedd, sydd wedi caniatáu i Felicity ddatblygu dealltwriaeth o effaith ACE.

Sophie Harker, Cynorthwyydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Sophie yn Gynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n gweithio ar y rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd sy'n canolbwyntio ar leihau effaith Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod yng Nghymru.

Cwblhaodd radd mewn BSc Seicoleg ym Mhrifysgol Caeredin yn 2016, cyn symud ymlaen i astudio MSc Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Datblygodd ei chariad tuag at weithio gyda phlant wrth iddi wirfoddoli fel Gweithiwr Ieuenctid ac Arweinydd Sgowtiaid yn ystod ei hastudiaethau, a arweiniodd ei gwaith mewn Uned Cyfeirio Disgyblion ar ôl ei gradd ôl-raddedig.

Rhoddodd y rôl hon brofiad ymarferol iddi o weithio gyda phlant ifanc ag ymddygiadau heriol; llawer ohonynt ag ACE lluosog, gan ei harwain i'w rôl bresennol lle mae'n gobeithio cymryd rhan yn y gwaith o liniaru ACE ar Lefel Genedlaethol.

Bethan Jones, Cynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Mae Bethan yn Gynorthwyydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gweithio o fewn y Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd. 

Mae gan Bethan radd mewn Ffrangeg a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Reading ac MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd o Abertawe, lle gwnaeth ymchwil ansoddol i Ddigwyddiadau Chwaraeon ar gyfer Cyfranogiad Torfol. 

Mae Bethan wedi gweithio o'r blaen mewn rolau addysg ac ymgysylltu yn y trydydd sector ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi cynnwys darparu a gwerthuso hyfforddiant. Mae wedi gweithio ar nifer o bynciau, gan gynnwys addysg ddyngarol, cymorth cyntaf, iechyd meddwl, atal ysmygu a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus. 

Wrth addysgu cymorth cyntaf i elusen, gweithiodd Bethan gyda sefydliadau partner i ddarparu sesiynau addysgol a negeseuon diogelwch i bobl ifanc a oedd mewn perygl o wynebu argyfwng. Mae'n edrych ymlaen at archwilio sut i leihau ACEs a chreu gweithlu sy'n wybodus am drawma. 

 


Y Timau Cyflenwi

Tîm Cydlynu ACE

Mae cydlynwyr ACE ar flaen y gad o ran llunio gweithlu wedi’i hysbysu gan drawma gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol

Y Tîm Cenedlaethol

Nod y tîm cenedlaethol yw i arwain elfen genedlaethol y rhaglen a darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i'r timau cyflenwi lleol