Tîm Cyflenwi Lleol Dyfed-Powys

Ethos ein tîm yw i rymuso a galluogi partneriaid a staff yr heddlu i gydweithio er mwyn llunio dulliau ataliol ac ymyrraeth gynnar ar gyfer y rhai hynny sydd angen cymorth yn ein cymunedau.

 

Tîm Cyflenwi Lleol Gwent

Mae Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd Gwent yn brosiect dan arweiniad yr Heddlu sy'n ceisio mynd i'r afael ag achosion gwreiddiol niwed a thrallod yn hytrach na brwydro i wella’r niwed yn hwyrach mewn bywyd.

 

Tîm Cyflenwi Gogledd Cymru

Yng ngogledd Cymru, wrth ddatblygu ein cynllun, rydym wedi ystyried pwysigrwydd sicrhau ei fod nid yn unig yn cefnogi cyflenwi'r amcanion ond hefyd yn datblygu cynaliadwyedd tymor hirach.

 

Tîm Cyflenwi De Cymru

Fel rhan o uchelgais y Rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd, mae rhaglen de Cymru yn canolbwyntio ar greu ‘system’ cyswllt cyntaf i ymyrryd, sy'n ymateb i fregusrwydd yn wahanol i'r ‘system’ bresennol.

 


Y Timau Cyflenwi

Y Tîm Cenedlaethol

Nod y tîm cenedlaethol yw i arwain elfen genedlaethol y rhaglen a darparu cymorth, cefnogaeth ac arweiniad i'r timau cyflenwi lleol

Tîm Cydlynu ACE

Mae cydlynwyr ACE ar flaen y gad o ran llunio gweithlu wedi’i hysbysu gan drawma gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol